Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Tachwedd 2012

 

 


Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus

1.     Ar 18 Hydref 2012, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, yn nodi 15 Tachwedd 2012 fel dyddiad cau i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd arnynt.

2.    Ar 13 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod adroddiad diwygiedig ac i newid y dyddiad cau i'r Pwyllgor adrodd yn ôl i'r Cynulliad i 3 Ionawr 2013.